Prosiectau Symud Pŵer – Ctrl-Shift
Fel rhan o brosiect Transition Together yn y DU, fe wnaethom ddarparu cyllid partneriaeth ar gyfer prosiectau peilot a oedd yn canolbwyntio ar ffyrdd arloesol o drosglwyddo grym yn lleol yng Nghymru a Lloegr.
Roedd yna lawer o ffyrdd y gweithion nhw i gyflawni eu nodau. Gallai prosiectau fod yn herio'r hen system, er enghraifft drwy ymgyrchu. Neu'n adeiladu'r system newydd, er enghraifft drwy ehangu'r comin.
Dewison ni brosiectau â photensial uchel i drawsnewid grym, boed hynny oherwydd eu natur aflonyddgar, y strwythurau grym oedd yn rhan o'r broses, neu'r nifer o sefydliadau a rhwydweithiau oedd yn rhan o'r gwaith. Roeddent yn ymdrin â chymuned leol benodol, yn cael eu harwain gan y gymuned, gan gysylltu â'r hyn oedd eisoes yn digwydd a'i chwyddo. Roeddent hefyd yn hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn eu cymunedau.
Mae'r prosiectau bellach i gyd wedi'u cwblhau. Rydym wedi cyd-greu'r canllaw hwn sy'n adrodd stori ac effaith y prosiectau hyn, ac sy'n cynnwys canllaw i'w hatgynhyrchu yn eich cymuned eich hun.
Teitl: Prosiect Prototeipiau CTRLshift – Enghreifftiau o Adeiladu Pŵer Cymunedol yn y DU a sut i'w hatgynhyrchu